Junte-se a nós em uma viagem ao mundo dos livros!
Adicionar este livro à prateleira
Grey
Deixe um novo comentário Default profile 50px
Grey
Assine para ler o livro completo ou leia as primeiras páginas de graça!
All characters reduced
Y Defodau - cover
LER

Y Defodau

Rebecca Roberts

Editora: Honno Press

  • 0
  • 0
  • 0

Sinopse

Dyma nofel newydd gan Rebecca Roberts sy'n cydbwyso galar a llawenydd y defodau sy'n fframio stori Gwawr, gan ddangos sut mae colled yn rhan annatod o fywyd.

Gweinydd yw Gwawr, sef un sy'n cynnal seremonïau enwi, priodasau ac angladdau digrefydd. Mae hi'n cynnal defodau sy'n helpu pobl i ddathlu diwrnodiau gorau eu bywydau, ac i gofio am y meirw. Mae hi'n dda wrth ei gwaith, ac yn falch o'i henw da. Ond am flynyddoedd lawer mae Gwawr wedi cuddio y tu ôl i'r ddelwedd berffaith mae hi wedi ei chreu; wedi mygu ei hiselder y tu ôl i fwgwd o barchusrwydd a phroffesiynoldeb. Pan gaiff y bai ar gam am ddifetha priodas cleient enwog aiff ei henw da yn deilchion, a does ganddi ddim byd arall i'w chynnal. Yn waeth na hynny, ymddengys bod rhywun yn gweithredu'n faleisus yn ei herbyn – yn benderfynol o'i dinistrio! Dim ond drwy ail-ymweld â chyfnod anoddaf ei bywyd y gall Gwawr ddarganfod pwy sy'n ceisio difetha ei gyrfa a'i busnes. Mae'n brofiad heriol, ydy, ond daw cefnogaeth o gyfeiriadau annisgwyl. Gyda chymorth ei chleientiaid a'i ffrindiau, dysga Gwawr wersi pwysig am natur bywyd, cariad a cholled. Ond ar ôl blynyddoedd o gadw pobl o hyd braich, a fydd caniatáu iddi ei hun fod yn fregus yn arwain at ragor o boendod a thor-calon?
Disponível desde: 20/07/2022.
Comprimento de impressão: 234 páginas.

Outros livros que poderiam interessá-lo

  • Hi-Hon - Casgliad o straeon ac ysgrifau gan fenywod am eu profiadau o fywyd yn y Gymru gyfoes - cover

    Hi-Hon - Casgliad o straeon ac...

    Catrin Beard, Esyllt Angharad Lewis

    • 0
    • 0
    • 0
    "Roedd y ddwy yn rhannu iaith oedd yn unigryw iddyn nhw; y math o iaith lle doedd y brawddegau byth yn cael eu gorffen a'r distawrwydd weithiau'n uwch na'r sqwrs." Megan Davies
    Casgliad yw hwn o straeon/ysgrifau gan 10 awdur sy'n uniaethu fel menywod ac sy'n byw yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain yn sôn am eu profiadau. Mae'r cyfraniadau yn amrywio o ran genre, arddull ysgrifennu, naws, hyd, profiad a chefndir yr awdur: yr unig gyfarwyddyd a roddwyd i'r awduron oedd iddynt ysgrifennu am y profiad o fod yn fenyw yn yr unfed ganrif ar hugain. Ceir cyflwyniad byr gan y golygyddion, Catrin Beard ac Esyllt Angharad Lewis, ar ddechrau'r gyfrol.
    Ver livro
  • Ffynnonloyw - Stori Tair Cenhedlaeth - cover

    Ffynnonloyw - Stori Tair...

    Moelona: Elizabeth Mary Jones...

    • 0
    • 0
    • 0
    Nofel tair rhan am deulu tlawd o naw o blant a fagwyd ar fferm Ffynnonloyw yn ne Ceredigon yw hon o'r 1880au hyd ganol y 1920au; y fam yn eilun yr aelwyd a'r tad yn wynebu heriau difrifol wrth geisio talu am addysg (Seisnig) i'w plant.Trwy gyfrwng portreadau o lawenydd a galar, malais a chenfigen a llawer o ddigwyddiadau cythryblus rydym yn dod i adnabod cymeriadau a chymdogion lliwgar, drwg a da, sy'n gwneud y stori mor ddifyr i'w darllen.
    Ver livro
  • Y Dydd Y Cwrddais  Ti - cover

    Y Dydd Y Cwrddais  Ti

    Josephine Poupilou

    • 0
    • 0
    • 0
    Nid oedd Lucille ond pedwar oed ar bymtheg, pan y’i gyrodd ei mam o’i chartref.
    
    Ar ei phen ei hun, aethai Lucille i fyw yn yr ystâd enfawr yr oedd hi wedi’i hetifeddu o’i nain.
    
    Aeth wyth mlynedd heibio ac yn sydyn, geilw ei llyschwaer Nicola, na allodd hi erioed ddioddef, yn gofyn iddi fwrw Nadolig efo’u cilydd a pheidio â dal dig.
    
    Cytuna Lucille ag hyn a phan fydd hi’n mynd i ginio ar noswyl Nadolig, bydd hi’n cwrdd â’r gŵr dyfodol Nicole, Xavier Blanc.
    
    Er mawr ryfeddod iddi, mae hi’n darganfod wedi cwrdd ag ef pum mlynedd yn ôl.  Bydd y gorffennol hwnnw ar y cyd yn creu ar unwaith rhyw gytgord rhwng y ddau berson ifanc, ond ni fwriada Nicole o gwbl derbyn ymyrraeth Lucille i mewn i’w bywyd ei hun.
    
    Wedyn, pam wahadodd Nicole hi i’r dathliad?  A ydy Nicole yn wir am ail-ddechrau neu a wnaeth Lucille y symudiad hwn â chymhellion cudd?PUBLISHER: TEKTIME
    Ver livro
  • Y Dydd Y Cwrddais  Ti - cover

    Y Dydd Y Cwrddais  Ti

    Josephine Poupilou

    • 0
    • 0
    • 0
    Nid oedd Lucille ond pedwar oed ar bymtheg, pan y’i gyrodd ei mam o’i chartref.
    
    Ar ei phen ei hun, aethai Lucille i fyw yn yr ystâd enfawr yr oedd hi wedi’i hetifeddu o’i nain.
    
    Aeth wyth mlynedd heibio ac yn sydyn, geilw ei llyschwaer Nicola, na allodd hi erioed ddioddef, yn gofyn iddi fwrw Nadolig efo’u cilydd a pheidio â dal dig.
    
    Cytuna Lucille ag hyn a phan fydd hi’n mynd i ginio ar noswyl Nadolig, bydd hi’n cwrdd â’r gŵr dyfodol Nicole, Xavier Blanc.
    
    Er mawr ryfeddod iddi, mae hi’n darganfod wedi cwrdd ag ef pum mlynedd yn ôl.  Bydd y gorffennol hwnnw ar y cyd yn creu ar unwaith rhyw gytgord rhwng y ddau berson ifanc, ond ni fwriada Nicole o gwbl derbyn ymyrraeth Lucille i mewn i’w bywyd ei hun.
    
    Wedyn, pam wahadodd Nicole hi i’r dathliad?  A ydy Nicole yn wir am ail-ddechrau neu a wnaeth Lucille y symudiad hwn â chymhellion cudd?
    Ver livro