¡Acompáñanos a viajar por el mundo de los libros!
Añadir este libro a la estantería
Grey
Escribe un nuevo comentario Default profile 50px
Grey
Suscríbete para leer el libro completo o lee las primeras páginas gratis.
All characters reduced
Dwi Wrth Fy Modd Cadw Fy Ystafell yn Lân - cover

Dwi Wrth Fy Modd Cadw Fy Ystafell yn Lân

Shelley Admont, KidKiddos Books

Editorial: KidKiddos Books

  • 0
  • 0
  • 0

Sinopsis

Gall y llyfr plant hwn ysgogi'r plant i gymryd cyfrifoldeb a chadw eu hystafell yn drefnus. Dilynwch y gwningen fach Jimmy a'i frodyr wrth iddynt ddysgu eu gwers yn y llyfr lluniau hwn. Maent yn dysgu gweithio gyda'i gilydd, glanhau eu hystafell, a threfnu eu teganau.Efallai y bydd y stori hon yn ddelfrydol ar gyfer darllen i'ch plant amser gwely ac yn bleserus i'r teulu cyfan hefyd!
Disponible desde: 26/01/2023.
Longitud de impresión: 34 páginas.

Otros libros que te pueden interesar

  • Dwi'n Caru Cysgu Yn Fy Ngwely Fy Hun - cover

    Dwi'n Caru Cysgu Yn Fy Ngwely Fy...

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Nid yw Jimmy, y gwningen fach, eisiau cysgu yn ei wely ei hun. Bob nos mae'n sleifio i mewn i ystafell ei rieni ac yn disgyn i gysgu yn eu gwely nhw. Tan un noson digwyddodd rhywbeth annisgwyl…. Efallai y bydd y stori hon yn ddelfrydol ar gyfer darllen i'ch plant amser gwely ac yn bleserus i'r teulu cyfan hefyd! Mae'n addas fel llyfr darllen ar goedd ar gyfer plant cyn oed ysgol neu lyfr hunan-ddarllen i blant hŷn.
    Ver libro
  • Am Ddiwrnod Bendigedig A wonderful Day - cover

    Am Ddiwrnod Bendigedig A...

    Sam Sagolski, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae'r llyfr hwn am werthfawrogiad yn dysgu plant i weld y da ym mhopeth. Yn y stori hon, mae Danny yn dweud wrth ei Dad am y math o ddiwrnod mae wedi’i gael, ac yn disgrifio popeth a ddigwyddodd yn ystod y dydd. Er na aeth diwrnod Danny fel y cynlluniwyd, llwyddodd i’w fwynhau er hynny. Felly ymhob sefyllfa ddrwg, gallwch chi ddod o hyd i rywbeth da a rhywbeth i fod yn ddiolchgar amdano.
    Ver libro
  • Bod yn Archarwr - cover

    Bod yn Archarwr

    Liz Shmuilov, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae llawer o blant yn breuddwydio am ddod yn archarwyr. Yn y llyfr plant hwn, mae Ron a'i ffrind gorau Maya yn mynd ar daith hwyliog i ddod yn arwyr. Maent yn dysgu rheolau archarwr pwysig sy'n eu helpu i gwblhau eu cenhadaeth gyntaf. Maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd ac yn helpu brawd Maya, gan ddysgu pethau newydd amdanyn nhw eu hunain. Ydych chi eisiau dod yn archarwr hefyd?
    Ver libro
  • Rwy’n Caru’r Hydref I Love Autumn - cover

    Rwy’n Caru’r Hydref I Love Autumn

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Yn y llyfr plant yma, mae Jimmy, y gwningen fach yn archwilio’r Hydref, ei ffefryn o’r tymhorau. Mae yn mwynhau bod tu allan a chwarae gyda’r dail amryliw. Pan mae’n dechrau bwrw glaw, mae Jimmy a’i deulu yn ffeindio gweithgareddau diddorol i’w gwneud yn y cartref. Maent yn cael diwrnod arbennig gyda’i gilydd, dim ots beth yw’r tywydd.
    Ver libro
  • Rydw i wrth fy modd efo’r gaeaf - cover

    Rydw i wrth fy modd efo’r gaeaf

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae’r gaeaf yn dymor llawn hwyl a phrydferth o ran edrychiad lle gall bawb ddod at ei gilydd i chwarae yn yr eira, ond nid oedd Jimmy’r gwningen fach yn barod ar gyfer y tywydd oer. Ar ôl dysgu sut i gadw ei hun yn gynnes o’r diwedd, gall fwynhau treulio amser gyda'i deulu yn yr awyr agored.
    Ver libro
  • Dwi wrth fy modd yn mynd i’r ysgol feithrin I Love to Go to Daycare - cover

    Dwi wrth fy modd yn mynd i’r...

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae Jimmy, y gwningen fach, wedi cynhyrfu ac yn nerfus iawn. Yfory yw ei ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol feithrin, ond mae eisiau aros gartref gyda'i fam. Ymunwch â Jimmy i ddarganfod sut mae ei dedi cyfeillgar yn ei helpu i deimlo'n gynhyrfus am ei ddiwrnod cyntaf.Gall y llyfr hwn helpu plant i oresgyn eu pryderon o adael eu rhieni am y tro cyntaf, a hefyd eu helpu i addasu i sefyllfaoedd newydd. Yn y diwedd, mae Jimmy yn darganfod pa mor hwyl yw’r ysgol feithrin go iawn!Efallai y bydd y stori hon yn addas i’w darllen i'ch plant amser gwely ac yn ddifyr i'r teulu cyfan hefyd!
    Ver libro