¡Acompáñanos a viajar por el mundo de los libros!
Añadir este libro a la estantería
Grey
Escribe un nuevo comentario Default profile 50px
Grey
Suscríbete para leer el libro completo o lee las primeras páginas gratis.
All characters reduced
Boxer a Brandon - cover

Boxer a Brandon

Inna Nusinsky, KidKiddos Books

Editorial: KidKiddos Books

  • 0
  • 0
  • 0

Sinopsis

Dyma stori deimladwy am gyfeillgarwch rhwng ci a bachgen bach.Pan fydd angen cymorth ar un ohonyn nhw, maen nhw bob amser yno i'w gilydd. Dyma beth mae gwir gyfeillgarwch yn ei olygu.
Disponible desde: 26/01/2023.
Longitud de impresión: 34 páginas.

Otros libros que te pueden interesar

  • Bod yn Archarwr - cover

    Bod yn Archarwr

    Liz Shmuilov, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae llawer o blant yn breuddwydio am ddod yn archarwyr. Yn y llyfr plant hwn, mae Ron a'i ffrind gorau Maya yn mynd ar daith hwyliog i ddod yn arwyr. Maent yn dysgu rheolau archarwr pwysig sy'n eu helpu i gwblhau eu cenhadaeth gyntaf. Maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd ac yn helpu brawd Maya, gan ddysgu pethau newydd amdanyn nhw eu hunain. Ydych chi eisiau dod yn archarwr hefyd?
    Ver libro
  • Mae fy Mam yn Anhygoel - cover

    Mae fy Mam yn Anhygoel

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Yn y stori amser gwely teimladwy hon, mae merch fach yn disgrifio pam mae ei Mam yn anhygoel. Gwelwn ni hi yn myned trwy ei dydd, yn cario'r teimlad cynhesaf am ei Mam.Mae Mam bob amser yn gwybod sut mae'n teimlo a gall helpu gydag unrhyw broblem. Gall Mam wneud y plethiad mwyaf cymhleth ac egluro ffracsiynau; Gall Mam helpu i'w deffro yn y bore a'i chofleidio'n dynn pan fydd hi'n drist.Gyda darluniau annwyl a neges y gall pawb uniaethu â hi, mae hwn yn llyfr perffaith ar gyfer plant a'u mamau.
    Ver libro
  • Am Ddiwrnod Bendigedig A wonderful Day - cover

    Am Ddiwrnod Bendigedig A...

    Sam Sagolski, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae'r llyfr hwn am werthfawrogiad yn dysgu plant i weld y da ym mhopeth. Yn y stori hon, mae Danny yn dweud wrth ei Dad am y math o ddiwrnod mae wedi’i gael, ac yn disgrifio popeth a ddigwyddodd yn ystod y dydd. Er na aeth diwrnod Danny fel y cynlluniwyd, llwyddodd i’w fwynhau er hynny. Felly ymhob sefyllfa ddrwg, gallwch chi ddod o hyd i rywbeth da a rhywbeth i fod yn ddiolchgar amdano.
    Ver libro
  • Rydw i’n Ddiolchgar - cover

    Rydw i’n Ddiolchgar

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae ‘Rydw i’n ddiolchgar’ yn dangos pa mor hawdd ydy hi i fod yn ddiolchgar am bopeth mewn bywyd, hyd yn oed am y pethau bychain. O’r adeg rydych chi’n deffro yn y bore, i fwynhau'r haul cynnes, i fynd yn ôl i gysgu a chofleidio'ch hoff dedi. Mae yna wastad rhywbeth i fod yn ddiolchgar amdano.
    Ver libro
  • Dwi Wrth Fy Modd Bwyta Ffrwythau a Llysiau I Love to Eat Fruits and Vegetables - cover

    Dwi Wrth Fy Modd Bwyta Ffrwythau...

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae Jimmy, y gwningen fach, yn hoffi bwyta losin. Mae'n sleifio i'r gegin i ddod o hyd i fag o losin a oedd wedi'i guddio y tu mewn i'r cwpwrdd. Beth sy'n digwydd ar ôl i Jimmy ddringo i fyny i gyrraedd y bag o losin? Byddwch yn darganfod hyn pan ddarllenwch y llyfr darluniadol hwn i blant. Ers y diwrnod hwnnw, mae'n dechrau datblygu arferion bwyta'n iach a hyd yn oed yn hoffi bwyta ei ffrwythau a'i lysiau.
    Ver libro
  • Amanda a’i Hamser Coll Amanda and the Lost Time - cover

    Amanda a’i Hamser Coll Amanda...

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Yn y llyfr plant hwn, byddwch chi'n cwrdd â merch o'r enw Amanda sydd fel arfer yn gwastraffu ei hamser. Fodd bynnag, un diwrnod, mae rhywbeth hudolus yn digwydd, ac mae Amanda yn sylweddoli mai amser yw’r peth mwyaf gwerthfawr sydd gennym – ac unwaith caiff amser ei wastraffu, mae ar goll am byth. Er mwyn cael ei hamser yn ôl, mae Amanda yn mynd ar daith ac yn dysgu bod angen bod yn gall gyda’i hamser.
    Ver libro