Rejoignez-nous pour un voyage dans le monde des livres!
Ajouter ce livre à l'électronique
Grey
Ecrivez un nouveau commentaire Default profile 50px
Grey
Abonnez-vous pour lire le livre complet ou lisez les premières pages gratuitement!
All characters reduced
Rwyf Wrth Fy Modd Yn Brwsio Fy Nannedd I Love to Brush My Teeth - cover

Rwyf Wrth Fy Modd Yn Brwsio Fy Nannedd I Love to Brush My Teeth

Shelley Admont, KidKiddos Books

Maison d'édition: KidKiddos Books

  • 0
  • 0
  • 0

Synopsis

Nid yw Jimmy bach yn hoffi brwsio ei ddannedd. Hyd yn oed pan fydd ei fam yn rhoi brws dannedd oren newydd sbon iddo, ei hoff liw, nid yw'n ei ddefnyddio fel y mae i fod. Ond pan mae pethau rhyfedd a hudol yn dechrau digwydd i Jimmy Bach, mae'n dechrau sylweddoli pa mor bwysig y gall brwsio ei ddannedd fod. Mae Dwi Wrth Fy Modd Yn Brwsio Fy Nannedd yn stori hyfryd llawn darluniau hardd a fydd yn sicr o gael sylw eich plant bach. Os yw'ch plentyn yn cael trafferth dysgu brwsio eu dannedd yna dyma'r llyfr i chi ei rannu gyda'ch gilydd.Gall y stori hon fod yn ddelfrydol ar gyfer darllen i'ch plant amser gwely ac yn bleserus i'r teulu cyfan hefyd!
Disponible depuis: 07/03/2023.
Longueur d'impression: 34 pages.

D'autres livres qui pourraient vous intéresser

  • Cysga’n Dawel Fy Nghariad - cover

    Cysga’n Dawel Fy Nghariad

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae hi’n amser mynd i'r gwely, ond nid yw Alice eisiau mynd i gysgu eto. Gan fynd drwy ei threfn arferol cyn mynd i’r gwely, mae Mam yn ceisio helpu ei merch i ymlacio drwy ei hatgoffa o'r holl bethau arbennig a wnaethant gyda'i gilydd y noson honno. Wedi’i ysgrifennu mewn modd mwyn a thyner, mae’r llyfr hwn yn dangos y berthynas gynnes a chariadus rhwng Alice a’i mam, wrth baratoi darllenwyr ifanc ar gyfer noson dda o gwsg.
    Voir livre
  • Nos Da Fy Nghariad! Goodnight My Love! - cover

    Nos Da Fy Nghariad! Goodnight My...

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae Alex yn ei ffeindio’n anodd mynd i gysgu, ac yn dechrau meddwl am esgusodion. Wedi darllen stori amser gwely, mae ei Dad yn cynnig cynllunio breuddwyd y byddai yn hoffi cael. Ffeindiwch allan ble mae eu dychymyg yn ei cymryd nhw wrth iddyn nhw gynllunio ei breuddwyd gyda’i gilydd.Fe fydd y stori amser gwely yma yn helpu plant teimlo’n gariadus ac wedi ymlacio, yn eu paratoi am noswaith heddychlon llawn cwsg.
    Voir livre
  • Dwi wrth fy modd yn dweud y gwir - cover

    Dwi wrth fy modd yn dweud y gwir

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae Jimmy, y gwningen fach, mewn trwbl. Drwy ddamwain, mae’n difetha hoff flodau ei fam. A fydd dweud celwydd yn helpu’r sefyllfa? Neu a yw'n well dweud y gwir a cheisio datrys y broblem mewn ffordd wahanol?
     
    Helpwch eich plant i fod yn fwy gonest gyda'r llyfr hwyliog hwn.
    Voir livre
  • Tyrd i chwarae Mam! Let’s Play Mom! - cover

    Tyrd i chwarae Mam! Let’s Play Mom!

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Stori deimladwy a adroddir gan ferch ifanc ym mlwyddyn dau yn yr ysgol sy'n dod o hyd i ffordd i godi calon ei mam a gwneud iddi wenu. Does dim byd yn fwy gwerthfawr nag amser gyda theulu. Mae gan y stori hon neges werthfawr i blant a rhieni. Mae’n dysgu plant am greadigrwydd a sut i gydymdeimlo ag eraill, yn ogystal ag atgoffa rhieni am ba mor bwysig yw treulio amser gwerthfawr gyda’u plant.
    Voir livre
  • Bod yn Archarwr - cover

    Bod yn Archarwr

    Liz Shmuilov, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae llawer o blant yn breuddwydio am ddod yn archarwyr. Yn y llyfr plant hwn, mae Ron a'i ffrind gorau Maya yn mynd ar daith hwyliog i ddod yn arwyr. Maent yn dysgu rheolau archarwr pwysig sy'n eu helpu i gwblhau eu cenhadaeth gyntaf. Maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd ac yn helpu brawd Maya, gan ddysgu pethau newydd amdanyn nhw eu hunain. Ydych chi eisiau dod yn archarwr hefyd?
    Voir livre
  • Rwy’n Caru Helpu I Love to Help - cover

    Rwy’n Caru Helpu I Love to Help

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae Jimmy y gwningen fach yn mynd i’r traeth gyda’i deulu. Yno mai’n dysgu am bwysigrwydd helpu eraill. Pan ddymchwelwyd castell tywod Jimmy gan y don, maent yn gweithio gyda’i gilydd i adeiladu castell yn fwy ac yn well. Mai popeth yn gweithio allan yn well pan rydym yn helpu ein gilydd.
    Voir livre