Rejoignez-nous pour un voyage dans le monde des livres!
Ajouter ce livre à l'électronique
Grey
Ecrivez un nouveau commentaire Default profile 50px
Grey
Abonnez-vous pour lire le livre complet ou lisez les premières pages gratuitement!
All characters reduced
Breuddwyd Amanda - cover

Breuddwyd Amanda

Shelley Admont, KidKiddos Books

Maison d'édition: KidKiddos Books

  • 0
  • 0
  • 0

Synopsis

Yn y llyfr hwn, byddwch yn cwrdd ag Amanda. Merch ifanc yw Amanda, ac mae ganddi lawer i ddysgu am waith caled a sut i fynd ati i wireddu ei breuddwydion. Ymunwch ar ei thaith arbennig mewn bywyd, a dysgwch gyda hi sut i ddarganfod eich nod mewn bywyd a sut i fynd ati i’w gyflawni. Yn y stori hon, bydd Amanda yn wynebu heriau, ond ni fydd byth yn rhoi’r gorau i’r hyn mae’n ceisio cyflawni. Llyfr ysbrydoledig i blant a’u rhieni yw "Breuddwyd Amanda". Dyma'r llyfr cyntaf mewn casgliad o straeon ysbrydoledig byr a all helpu'ch plant i ddatblygu'r sgiliau a'r elfennau sydd eu hangen i fyw bywyd hapus, boddhaus a llwyddiannus.
Disponible depuis: 02/05/2023.
Longueur d'impression: 34 pages.

D'autres livres qui pourraient vous intéresser

  • Rydw i’n Ddiolchgar - cover

    Rydw i’n Ddiolchgar

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae ‘Rydw i’n ddiolchgar’ yn dangos pa mor hawdd ydy hi i fod yn ddiolchgar am bopeth mewn bywyd, hyd yn oed am y pethau bychain. O’r adeg rydych chi’n deffro yn y bore, i fwynhau'r haul cynnes, i fynd yn ôl i gysgu a chofleidio'ch hoff dedi. Mae yna wastad rhywbeth i fod yn ddiolchgar amdano.
    Voir livre
  • Cysga’n Dawel Fy Nghariad Sweet Dreams My Love - cover

    Cysga’n Dawel Fy Nghariad Sweet...

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae hi’n amser mynd i'r gwely, ond nid yw Alice eisiau mynd i gysgu eto. Gan fynd drwy ei threfn arferol cyn mynd i’r gwely, mae Mam yn ceisio helpu ei merch i ymlacio drwy ei hatgoffa o'r holl bethau arbennig a wnaethant gyda'i gilydd y noson honno. Wedi’i ysgrifennu mewn modd mwyn a thyner, mae’r llyfr hwn yn dangos y berthynas gynnes a chariadus rhwng Alice a’i mam, wrth baratoi darllenwyr ifanc ar gyfer noson dda o gwsg.
    Voir livre
  • Am Ddiwrnod Bendigedig - cover

    Am Ddiwrnod Bendigedig

    Sam Sagolski, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae'r llyfr hwn am werthfawrogiad yn dysgu plant i weld y da ym mhopeth. Yn y stori hon, mae Danny yn dweud wrth ei Dad am y math o ddiwrnod mae wedi’i gael, ac yn disgrifio popeth a ddigwyddodd yn ystod y dydd. Er na aeth diwrnod Danny fel y cynlluniwyd, llwyddodd i’w fwynhau er hynny. Felly ymhob sefyllfa ddrwg, gallwch chi ddod o hyd i rywbeth da a rhywbeth i fod yn ddiolchgar amdano.
    Voir livre
  • Bod yn Archarwr - cover

    Bod yn Archarwr

    Liz Shmuilov, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae llawer o blant yn breuddwydio am ddod yn archarwyr. Yn y llyfr plant hwn, mae Ron a'i ffrind gorau Maya yn mynd ar daith hwyliog i ddod yn arwyr. Maent yn dysgu rheolau archarwr pwysig sy'n eu helpu i gwblhau eu cenhadaeth gyntaf. Maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd ac yn helpu brawd Maya, gan ddysgu pethau newydd amdanyn nhw eu hunain. Ydych chi eisiau dod yn archarwr hefyd?
    Voir livre
  • Boxer a Brandon Boxer and Brandon - cover

    Boxer a Brandon Boxer and Brandon

    Inna Nusinsky, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Dyma stori deimladwy am gyfeillgarwch rhwng ci a bachgen bach.Pan fydd angen cymorth ar un ohonyn nhw, maen nhw bob amser yno i'w gilydd. Dyma beth mae gwir gyfeillgarwch yn ei olygu.
    Voir livre
  • Mae fy Mam yn Anhygoel - cover

    Mae fy Mam yn Anhygoel

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Yn y stori amser gwely teimladwy hon, mae merch fach yn disgrifio pam mae ei Mam yn anhygoel. Gwelwn ni hi yn myned trwy ei dydd, yn cario'r teimlad cynhesaf am ei Mam.Mae Mam bob amser yn gwybod sut mae'n teimlo a gall helpu gydag unrhyw broblem. Gall Mam wneud y plethiad mwyaf cymhleth ac egluro ffracsiynau; Gall Mam helpu i'w deffro yn y bore a'i chofleidio'n dynn pan fydd hi'n drist.Gyda darluniau annwyl a neges y gall pawb uniaethu â hi, mae hwn yn llyfr perffaith ar gyfer plant a'u mamau.
    Voir livre