Unisciti a noi in un viaggio nel mondo dei libri!
Aggiungi questo libro allo scaffale
Grey
Scrivi un nuovo commento Default profile 50px
Grey
Iscriviti per leggere l'intero libro o leggi le prime pagine gratuitamente!
All characters reduced
Rydw i’n Ddiolchgar I am Thankful - cover

Rydw i’n Ddiolchgar I am Thankful

Shelley Admont, KidKiddos Books

Casa editrice: KidKiddos Books

  • 0
  • 0
  • 0

Sinossi

Mae ‘Rydw i’n ddiolchgar’ yn dangos pa mor hawdd ydy hi i fod yn ddiolchgar am bopeth mewn bywyd, hyd yn oed am y pethau bychain. O’r adeg rydych chi’n deffro yn y bore, i fwynhau'r haul cynnes, i fynd yn ôl i gysgu a chofleidio'ch hoff dedi. Mae yna wastad rhywbeth i fod yn ddiolchgar amdano.
Disponibile da: 08/05/2024.
Lunghezza di stampa: 34 pagine.

Altri libri che potrebbero interessarti

  • Cysga’n Dawel Fy Nghariad - cover

    Cysga’n Dawel Fy Nghariad

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae hi’n amser mynd i'r gwely, ond nid yw Alice eisiau mynd i gysgu eto. Gan fynd drwy ei threfn arferol cyn mynd i’r gwely, mae Mam yn ceisio helpu ei merch i ymlacio drwy ei hatgoffa o'r holl bethau arbennig a wnaethant gyda'i gilydd y noson honno. Wedi’i ysgrifennu mewn modd mwyn a thyner, mae’r llyfr hwn yn dangos y berthynas gynnes a chariadus rhwng Alice a’i mam, wrth baratoi darllenwyr ifanc ar gyfer noson dda o gwsg.
    Mostra libro
  • Breuddwyd Amanda - cover

    Breuddwyd Amanda

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Yn y llyfr hwn, byddwch yn cwrdd ag Amanda. Merch ifanc yw Amanda, ac mae ganddi lawer i ddysgu am waith caled a sut i fynd ati i wireddu ei breuddwydion. Ymunwch ar ei thaith arbennig mewn bywyd, a dysgwch gyda hi sut i ddarganfod eich nod mewn bywyd a sut i fynd ati i’w gyflawni. Yn y stori hon, bydd Amanda yn wynebu heriau, ond ni fydd byth yn rhoi’r gorau i’r hyn mae’n ceisio cyflawni. Llyfr ysbrydoledig i blant a’u rhieni yw "Breuddwyd Amanda". Dyma'r llyfr cyntaf mewn casgliad o straeon ysbrydoledig byr a all helpu'ch plant i ddatblygu'r sgiliau a'r elfennau sydd eu hangen i fyw bywyd hapus, boddhaus a llwyddiannus.
    Mostra libro
  • Dwi'n Caru Fy Nhad I Love My Dad - cover

    Dwi'n Caru Fy Nhad I Love My Dad

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Nid yw Jimmy, y bwni bach, yn y cychwyn yn gwybod sut i reidio beic dwy olwyn fel ei frodyr mawr. Mewn gwirionedd, weithiau mae'n cael ei bryfocio amdano. Pan mae Dad yn dangos i Jimmy sut i beidio â bod ofn rhoi cynnig ar rywbeth newydd, dyna pryd mae'r hwyl yn dechrau.
    Mostra libro
  • Rwyf Wrth Fy Modd Yn Brwsio Fy Nannedd I Love to Brush My Teeth - cover

    Rwyf Wrth Fy Modd Yn Brwsio Fy...

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Nid yw Jimmy bach yn hoffi brwsio ei ddannedd. Hyd yn oed pan fydd ei fam yn rhoi brws dannedd oren newydd sbon iddo, ei hoff liw, nid yw'n ei ddefnyddio fel y mae i fod. Ond pan mae pethau rhyfedd a hudol yn dechrau digwydd i Jimmy Bach, mae'n dechrau sylweddoli pa mor bwysig y gall brwsio ei ddannedd fod. Mae Dwi Wrth Fy Modd Yn Brwsio Fy Nannedd yn stori hyfryd llawn darluniau hardd a fydd yn sicr o gael sylw eich plant bach. Os yw'ch plentyn yn cael trafferth dysgu brwsio eu dannedd yna dyma'r llyfr i chi ei rannu gyda'ch gilydd.Gall y stori hon fod yn ddelfrydol ar gyfer darllen i'ch plant amser gwely ac yn bleserus i'r teulu cyfan hefyd!
    Mostra libro
  • Y Lindysyn Teithiol The Travelling Caterpillar - cover

    Y Lindysyn Teithiol The...

    Rayne Coshav, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae'r stori hon yn sôn am lindysyn a aeth ar antur yn ddamweiniol. Mae’n gweld ei hun yn teithio ymhell i ffwrdd o'i chartref yn y goedwig. Cafodd brofiad cyffrous ar y cyfan. Rhoddodd gynnig ar fwydydd newydd ac archwilio llefydd newydd. Ond roedd y lindysyn yn hapus iawn i ddod yn ôl adref at ei theulu yn y diwedd.
    Mostra libro
  • Dwi Wrth Fy Modd Cadw Fy Ystafell yn Lân - cover

    Dwi Wrth Fy Modd Cadw Fy...

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Gall y llyfr plant hwn ysgogi'r plant i gymryd cyfrifoldeb a chadw eu hystafell yn drefnus. Dilynwch y gwningen fach Jimmy a'i frodyr wrth iddynt ddysgu eu gwers yn y llyfr lluniau hwn. Maent yn dysgu gweithio gyda'i gilydd, glanhau eu hystafell, a threfnu eu teganau.Efallai y bydd y stori hon yn ddelfrydol ar gyfer darllen i'ch plant amser gwely ac yn bleserus i'r teulu cyfan hefyd!
    Mostra libro