Junte-se a nós em uma viagem ao mundo dos livros!
Adicionar este livro à prateleira
Grey
Deixe um novo comentário Default profile 50px
Grey
Assine para ler o livro completo ou leia as primeiras páginas de graça!
All characters reduced
Breuddwyd Amanda - cover
LER

Breuddwyd Amanda

Shelley Admont, KidKiddos Books

Editora: KidKiddos Books

  • 0
  • 0
  • 0

Sinopse

Yn y llyfr hwn, byddwch yn cwrdd ag Amanda. Merch ifanc yw Amanda, ac mae ganddi lawer i ddysgu am waith caled a sut i fynd ati i wireddu ei breuddwydion. Ymunwch ar ei thaith arbennig mewn bywyd, a dysgwch gyda hi sut i ddarganfod eich nod mewn bywyd a sut i fynd ati i’w gyflawni. Yn y stori hon, bydd Amanda yn wynebu heriau, ond ni fydd byth yn rhoi’r gorau i’r hyn mae’n ceisio cyflawni. Llyfr ysbrydoledig i blant a’u rhieni yw "Breuddwyd Amanda". Dyma'r llyfr cyntaf mewn casgliad o straeon ysbrydoledig byr a all helpu'ch plant i ddatblygu'r sgiliau a'r elfennau sydd eu hangen i fyw bywyd hapus, boddhaus a llwyddiannus.
Disponível desde: 02/05/2023.
Comprimento de impressão: 34 páginas.

Outros livros que poderiam interessá-lo

  • Boxer a Brandon - cover

    Boxer a Brandon

    Inna Nusinsky, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Dyma stori deimladwy am gyfeillgarwch rhwng ci a bachgen bach.Pan fydd angen cymorth ar un ohonyn nhw, maen nhw bob amser yno i'w gilydd. Dyma beth mae gwir gyfeillgarwch yn ei olygu.
    Ver livro
  • Rydw i’n Ddiolchgar I am Thankful - cover

    Rydw i’n Ddiolchgar I am Thankful

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae ‘Rydw i’n ddiolchgar’ yn dangos pa mor hawdd ydy hi i fod yn ddiolchgar am bopeth mewn bywyd, hyd yn oed am y pethau bychain. O’r adeg rydych chi’n deffro yn y bore, i fwynhau'r haul cynnes, i fynd yn ôl i gysgu a chofleidio'ch hoff dedi. Mae yna wastad rhywbeth i fod yn ddiolchgar amdano.
    Ver livro
  • Dwi'n Caru Fy Nhad I Love My Dad - cover

    Dwi'n Caru Fy Nhad I Love My Dad

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Nid yw Jimmy, y bwni bach, yn y cychwyn yn gwybod sut i reidio beic dwy olwyn fel ei frodyr mawr. Mewn gwirionedd, weithiau mae'n cael ei bryfocio amdano. Pan mae Dad yn dangos i Jimmy sut i beidio â bod ofn rhoi cynnig ar rywbeth newydd, dyna pryd mae'r hwyl yn dechrau.
    Ver livro
  • Rwyf Wrth Fy Modd Yn Brwsio Fy Nannedd I Love to Brush My Teeth - cover

    Rwyf Wrth Fy Modd Yn Brwsio Fy...

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Nid yw Jimmy bach yn hoffi brwsio ei ddannedd. Hyd yn oed pan fydd ei fam yn rhoi brws dannedd oren newydd sbon iddo, ei hoff liw, nid yw'n ei ddefnyddio fel y mae i fod. Ond pan mae pethau rhyfedd a hudol yn dechrau digwydd i Jimmy Bach, mae'n dechrau sylweddoli pa mor bwysig y gall brwsio ei ddannedd fod. Mae Dwi Wrth Fy Modd Yn Brwsio Fy Nannedd yn stori hyfryd llawn darluniau hardd a fydd yn sicr o gael sylw eich plant bach. Os yw'ch plentyn yn cael trafferth dysgu brwsio eu dannedd yna dyma'r llyfr i chi ei rannu gyda'ch gilydd.Gall y stori hon fod yn ddelfrydol ar gyfer darllen i'ch plant amser gwely ac yn bleserus i'r teulu cyfan hefyd!
    Ver livro
  • Dw i Wrth Fy Modd yn Rhannu I Love to Share - cover

    Dw i Wrth Fy Modd yn Rhannu I...

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Mae Jimmy a’i frodyr wrth eu boddau yn chwarae. Heddiw yw pen-blwydd Jimmy, felly mae ganddo lawer o deganau. Fodd bynnag, nid yw bob amser eisiau rhannu, ac oherwydd hynny, efallai na fydd yn cael hwyl bob tro. Gadewch i ni ddarganfod beth mae rhannu’n ei olygu, a pham mae’n gwneud i ni deimlo’n well!Efallai y bydd y stori hon yn berffaith i’w darllen i’ch plant amser gwely a hefyd yn rhoi mwynhad i’r teulu cyfan!
    Ver livro
  • Dwi'n Caru Cysgu Yn Fy Ngwely Fy Hun - cover

    Dwi'n Caru Cysgu Yn Fy Ngwely Fy...

    Shelley Admont, KidKiddos Books

    • 0
    • 0
    • 0
    Nid yw Jimmy, y gwningen fach, eisiau cysgu yn ei wely ei hun. Bob nos mae'n sleifio i mewn i ystafell ei rieni ac yn disgyn i gysgu yn eu gwely nhw. Tan un noson digwyddodd rhywbeth annisgwyl…. Efallai y bydd y stori hon yn ddelfrydol ar gyfer darllen i'ch plant amser gwely ac yn bleserus i'r teulu cyfan hefyd! Mae'n addas fel llyfr darllen ar goedd ar gyfer plant cyn oed ysgol neu lyfr hunan-ddarllen i blant hŷn.
    Ver livro